Maes Busnes / Adran Cyfiawnder Troseddol a'r Ddalfa
Lleoliad Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Sefydlog
Rhan/Llawn Amser Llawn Amser
Math o Gytundeb Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1
Dyddiad Cyfweliad 2 Rhagfyr 2026
Dyddiad cau 19/11/26 23:55
Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Cymorth Rheoli Eiddo/Tystiolaeth yn Adran Cyfiawnder Troseddol.
Noder: Y cyflog cychwynnol fydd £27,204 y flwyddyn, sef y Cyflog Byw Gwirioneddol, a dyddiad diweddarwyd ar 1 Tachwedd 2026. Mae codiad cyflog 2026 yn yr arfaeth a bydd hefyd yn cael ei ôl-ddyddio i fis Medi 2026 gyda chyhoeddiad o unrhyw pwyntiau cynnydd graddfa cyflog, os yn briodol.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: [email protected]
Beth allwch chi ddisgwyl?
- Bydd gan bob dechreuwr newydd cyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
- 24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl cyhoeddus
- 24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
- Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
- Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
- Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
- Cynllun Beicio i’r Gwaith
- Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
- Cynllun pensiwn
- Rhwydweithiau Cymorth Staff
- Cyfleoedd gweithio hyblyg
- Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
- Darpariaethau tâl salwch
- Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.
Cynhelir cyfweliadau: 02/12/2026 & 03/12/2026
Amrywiaeth a’r Gymraeg
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.
Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.
Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Pwynt gwybodaeth:
Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: [email protected]
Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.
#J-18808-Ljbffr