Swyddog Cymorth Addysgol
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.
Ydych chi'n angerddol am gefnogi myfyrwyr a gwneud gwahaniaeth ym myd addysg? Rydym yn chwilio am Swyddogion Cymorth Addysg brwdfrydig i lenwi nifer o swyddi ar draws shifftiau amrywiol, gan gynnig cyfleoedd hyblyg i helpu dysgwyr i ffynnu.
- Wythnosau gwaith: 36 wythnos y flwyddyn (yn ystod y tymor)
- Oriau: Rhan-amser, gyda'r contractau canlynol ar gael:
- 21 awr yr wythnos: 3 diwrnod, 9:00am-3:30pm, gyda 3 awr ychwanegol ar bedwerydd diwrnod (9:00am-12:00pm)
- Lleoliad: campws Tycoch, Abertawe
Dyddiadau allweddol:
- Dyddiad cau: 1 Rhagfyr 2026 am 11:59pm
- Llunio rhestr fer: 2 Rhagfyr 2026
- Cyfweliadau: 9 Rhagfyr 2026
Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal yn gynnar neu ganol mis Medi. Gwahoddir ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer i fynychu sesiwn flasu neu sesiwn rhagolwg o'r swydd (sy'n ddewisol) ar ddiwrnod eu cyfweliad, gan roi cyfle iddynt gael cipolwg ar y rôl a'r amgylchedd gwaith.
- Darparu cymorth addysgol, emosiynol, cymdeithasol a phersonol i fyfyrwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Cymryd rhan yn y ddarpariaeth o raglenni dysgu a'i chefnogi, yn unol â chyfarwyddiadau'r darlithwyr
- Cynorthwyo gyda thrin a symud myfyrwyr sydd ag anghenion gofal personol, yn unol â'r cynllun gofal unigol
- Mae pasio TGAU mewn Mathemateg a Saesneg (graddau A-C) neu gymhwyster cyfatebol yn ddymunol
- Sgiliau TG sylfaenol, h.y. gallu defnyddio cyfrifiadur, a bod yn gyfarwydd â Microsoft Word a'r Rhyngrwyd
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o anghenion myfyrwyr ag anawsterau dysgu
- Gallu gweithio gyda phobl ag anawsterau dysgu, gan gynnwys cynorthwyo gyda gofal personol.
- 5.66 wythnos o Wayliau Blynyddol
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
- 2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
- Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
- Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
- Cyflog Amser Llawn: £26,084 y flwyddyn
Amrywiaeth a Chynhwysiant Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
- Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£41)
- Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).
#J-18808-Ljbffr