Prentisiaeth Cynorthwyydd Cynhyrchu - Lefel 3 - BBC Cymru - Cymraeg - Caerdydd/Fangor
- Home
- About us
- BBC life
- Early careers
- Search jobs
Language Log in to Profile BBC Employee Login CREATE JOB ALERT Prentisiaeth Cynorthwyydd Cynhyrchu - Lefel 3 - BBC Cymru - Cymraeg - Caerdydd/Fangor Job Closing Date: 24 November 2026 Bangor, GBR, LL57 2BY | Cardiff, GBR, CF10 1FT
MATH O GONTRACT: Prentisiaeth Cyfnod Penodol, Llawn-amser am 13 misADRAN: BBC Radio CymruLLEOLIAD: Caerdydd neu FangorCYFLOG: £24,650
AI UN O BRENTISIAETHAU’R BBC YW’R SWYDD NESAF I CHI?
Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un o’n darparwyr dysgu.
PAM YMUNO Â’R CYNLLUN?
Dyma gyfle i chi lansio gyrfa yng nghanol y byd darlledu ym Mhrydain. Rydym ni'n chwilio am unigolion sy'n frwd dros ganfod sut rydym ni'n creu cynnwys ac yn dod â syniadau'n fyw. Yn dibynnu ar ardal eich lleoliad, gallech chi fod yn gweithio y tu ôl i'r llenni ar gynyrchiadau cyffrous, megis dramâu gafaelgar neu wefr radio byw, ac ennill cymhwyster cydnabyddedig wrth ddysgu yn y gwaith. Dyma gyfle i chi ehangu eich gwybodaeth am gynhyrchu wrth weithio ar cynnwys sy'n bwysig i filiynau.
Eisiau gwybod mwy? Gwyliwch recordiadau o’n cyfres o weminarau ar ein rhestr chwarae YouTube Bywyd yn y BBC i ddysgu mwy am y cynllun hwn a’r cyfleoedd eraill rydym ni’n eu cynnig, ac i glywed gan ein prentisiaid presennol am eu profiadau nhw.
Mae lleoedd ar y Brentisiaeth Cynorthwyydd Cynhyrchu ar gael ar draws amrywiaeth o dimau yn y lleoliad hwn, yn ogystal â lleoliadau eraill. Mae manylion lleoliadau gwaith eraill sydd ar gael yn y lleoliad hwn ar wefan Gyrfaoedd Cynnar y BBC.
PAM YMUNO Â’R TÎM?
BBC Radio Cymru yw gorsaf radio Gymraeg genedlaethol Cymru ac mae’n darlledu ers 1977. Cafodd Radio Cymru 2 yn cael ei lansio yn 2018. Ar gyfartaledd, rydym yn darlledu dros 22 awr o raglenni bob dydd i dros 100,000 o wrandawyr ledled Cymru a’r tu hwnt. Mae Radio Cymru yn gwasanaethu siaradwyr Cymraeg o bob oed a diddordeb drwy ddarparu rhaglenni cerddoriaeth, rhaglenni dogfen, sioeau trafod, materion cyfoes a gwleidyddiaeth, crefydd, y celfyddydau, a llawer mwy. Rydym hefyd yn darlledu o ddigwyddiadau o bob math, megis Eisteddfod yr Urdd, Tafwyl, y Sioe Frenhinol, a'r Eisteddfod Genedlaethol. Cerddoriaeth gyfoes yw ffocws Radio Cymru 2.
Fel Prentis Cynorthwyydd Cynhyrchu yn y BBC, byddwch chi’n cael profiad ymarferol ar draws amrywiaeth o brosiectau – o gefnogi cynyrchiadau uchel eu proffil i gyfrannu at gynnwys y mae cynulleidfaoedd ledled y DU yn ei fwynhau. Byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol, yn datblygu sgiliau ymarferol ac yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddod â syniadau creadigol yn fyw. Gallai’r brentisiaeth hon arwain at gyfleoedd i weithio fel:
- Is-ymchwilydd
- Rhedwr
- Cynorthwyydd Cynnwys neu Olygu
EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A’CH DYLANWAD
Fel Prentis Cynorthwyydd Cynhyrchu gyda Chwaraeon BBC Radio Cymru, mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu, tyfu a chyfrannu. Fe allech chi fod yn:
- Helpu i ddatblygu syniadau a straeon drwy ymchwilio i gynnwys a dod o hyd i westeion a chyfranogwyr.
- Ennill profiad bywyd go iawn drwy gynorthwyo eich tîm ar leoliad, yn y stiwdio, neu mewn oriel deledu, a helpu ar lawr y stiwdio.
- Dysgu sut mae defnyddio offer technegol a meddalwedd arbenigol drwy gefnogi timau gyda chamerâu, sain, goleuadau a golygu.
- Creu cynnwys ar gyfer sawl llwyfan, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, o dan arweiniad gweithwyr proffesiynol profiadol.
Byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster prentisiaeth sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant, gan ddysgu yn y gwaith a’r tu allan i'r gwaith. Mae hyn yn golygu y byddwch chi, yn y same missing rest>...
#J-18808-Ljbffr