Dros Dro - 27.5 + 2.5 (dyletswydd cinio) awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)
I ddechrau - Cyn gynted â phosibl.
Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn profiadol, brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â thim yr ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu a staff uwch i cefnogi’r dysgu ar gyfer plant a chynnig cefnogaeth gyffredinol i’r staff a disgyblion.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant)
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u amddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu amddiffyn.
Swydd Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 2
Cyflog: £26,016 - £26,427 pro rata (yn gymesur â'r oriau a'r wythnosau a weithir)
Dyddiad Cau: 12.00 canol dydd, Dydd Mawrth, 24ain o Dachwedd 2026.
Mae'r hysbyseb uchod ar Cynorthwyydd Addysgu dros dro yn YGG Rhosafan, ac mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
#J-18808-Ljbffr