Mae cyfle llawn amser wedi dod ar gael yn y Tîm Cymorth Corfforaethol i Wasanaethau. Mae’r Gwasanaeth Cefnogi Corfforaethol yn darparu cefnogaeth weinyddiol i bob rhan o'r Cyngor, ond bydd y rôl hon yn bennaf yn darparu cefnogaeth i'r gwasanaeth Rheoli a Datblygu Asedau, o fewn Uned Twf a Menter y Cyngor Sir, sy'n ymwneud â defnydd tir ac adeiladau sy'n eiddo i'r Cyngor. Bydd hefyd gyfle i gynorthwyo'r gwasanaeth Twf a Menter ehangach pan fo angen.
Am y rôl:
Mae'r rôl yn gofyn am ddefnydd rheolaidd o systemau meddalwedd, gan gynnwys Civica Financials, Civica Purchasing, Asset Manager a Microsoft 365, yn benodol Excel, Outlook a Microsoft Teams. Bydd cynnal cofnodion a chronfeydd data electronig cywir, echdynnu gwybodaeth o daenlenni a systemau CRM, a chynhyrchu dogfennau o safon broffesiynol uchel gyda chywirdeb a sylw i fanylion yn hanfodol i'r swydd. Bydd gwybodaeth ymarferol dda o Excel ar gyfer creu, fformatio a hidlo taenlenni yn hanfodol.
Mae'r rôl yn cefnogi ceisiadau i ddefnyddio tir ac eiddo'r Cyngor, gan wirio bod y ddogfennaeth yn gyflawn ac yn cyrraedd y safon ofynnol cyn iddi gael ei hadolygu. Yn dilyn cymeradwyaeth, bydd deiliad y swydd yn paratoi ac yn cyhoeddi trwyddedau ac yn diweddaru'r cofnodion perthnasol.
Fel pwynt cyswllt cyntaf, bydd deiliad y swydd yn monitro ac yn ymateb i gyfathrebiadau drwy Outlook a system Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor, CLIC, yn cydnabod derbyn gohebiaeth, yn cofnodi cyfnewidiadau ac yn cyfeirio ymholiadau at y swyddogion neu wasanaethau perthnasol o fewn y Cyngor.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac uchel ei gymhelliant gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad yn gweithio mewn lleoliad awdurdod lleol neu weinyddol, ynghyd ag o leiaf 5 TGAU neu gymhwyster cyfwerth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhagweithiol, gyda sgiliau gweinyddol, trefnu, cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid cryf. Bydd yn gallu blaenoriaethu llwyth gwaith, trin gwybodaeth gyfrinachol yn briodol, gweithio'n annibynnol ac mewn partneriaeth ag eraill, cefnogi cydweithwyr, a meithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda chydweithwyr a chwsmeriaid er mwyn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel.
Byddai cefndir mewn eiddo yn fantais amlwg.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysgydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon, ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae rhagor o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar gael yma [https://careers.ceredigion.gov.uk/cy/bywyd-ceredigion/yr-hyn-a-gynigiwn/].
Cynhelir cyfweliadau wythnos ddechrau 04/01/2027.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106843.pdf]
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion [https://pecyn.careers.ceredigion.gov.uk/]
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Keith Dale [email protected]
- Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
- Ni ddylai ymgeiswyr blaenorol wneud cais eto.
Rydym wedi ymrwymo ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn peryglFel rhan o'r ymrwymiadhom,maerhairolauofewnein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesau addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
#J-18808-Ljbffr