Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Swyddog Cadwraeth - Adfer Byd Natur tan 31/03/2028
Gradd 7
Ydych chi'n barod am yr her nesaf yn eich gyrfa mewn cadwraeth natur? Fyddech chi’n dymuno gweithio mewn tirwedd gyfoethog ac amrywiol o glogwyni garw, rhostiroedd agored a dyffrynnoedd cysgodol, i adfer cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt?
Ymunwch â Thîm Cadwraeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i weithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i adfer a chysylltu cynefinoedd ar raddfa tirwedd. Drwy alluogi ailgyflwyno arferion traddodiadol o reoli tir, byddwch yn cynyddu amrywiaeth y bywyd gwyllt ac yn hybu gwydnwch safleoedd gwarchodedig. Dyma gyfle unigryw i fynd gam ymhellach yn eich gyrfa ecolegol mewn lleoliad ysblennydd.
Ariennir y swydd hon dri'r Rhaglen Rhwydweithiau Natur, a gyflawnir gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.
Fel Swyddog Cadwraeth, byddwch:
- Yn hwyluso gwaith cyfalaf a chytundebau rheoli ar gyfer tirfeddianwyr i gael yr amodau gorau posibl ar gyfer bywyd gwyllt ar y safleoedd.
- Yn rheoli a monitro’r portffolio o safleoedd, gan gynnwys trefnu pori ar gyfer cadwraeth natur, a chadw cofnodion i baratoi adroddiadau ar allbynnau a chanlyniadau.
- Yn datblygu protocolau monitora ar gyfer amrywiol fathau o cynefinoedd, sy’n addas i wirfoddolwyr, staff a thirfeddianwyr eu defnyddio.
- Yn rhoi cyngor a chymorth technegol i dirfeddianwyr a ffermwyr yn y Parc Cenedlaethol ynglŷn â rheoli tir cadwraeth, ac annog cadwraeth drwy greu deunydd hyrwyddo.
- Yn ymgysylltu â gwirfoddolwyr, eu recriwtio a’u hyfforddi i helpu i fonitro bywyd gwyllt. Goruchwylio gwirfoddolwyr a chontractwyr sy'n gweithio i adfer a rheoli cynefinoedd.
- Gweithio gyda phartneriaid allweddol i lwyddo i gyflawni canlyniadau strategol ar gyfer rheoli adfer byd natur.
Bydd gennych y canlynol:
- Cymhwyster priodol ar lefel HND/ gradd neu brofiad proffesiynol cyfatebol.
- Profiad sylweddol o reoli tir cadwraeth a chynlluniau pori.
- Profiad o glustnodi cynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth y DU, asesu eu cyflwr a rhoi cyngor clir ar reoli.
- Gwybodaeth drylwyr o faterion cadwraeth cyfredol y DU a materion ymarferol o reoli cynefinoedd.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da, gan gynnwys sgiliau yn y Gymraeg ar lefel mynediad.
- Sgiliau rhagorol o weithio mewn tîm, hunan-gymhelliant, a'r gallu i weithio ar eich liwt eich hun, rheoli amser a chyllidebau yn effeithiol, a gweithio i dargedau a therfynau amser.
- Y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau, protocolau a manylebau.
- Sgiliau trefnu a thechnoleg gwybodaeth da.
- Profiad o weithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd.
- Trwydded yrru lawn a defnydd o'ch cerbyd eich hun at ddibenion gwaith.
- Uwch Dystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Gweler y disgrifiad swydd am fanylion llawn y swydd a'r cyfrifoldebau.
Cyflog a Buddion:
Cyflog o £36,581-£39,481 y flwyddyn, lleiafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein proses recriwtio yn hygyrch i bawb. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch ar unrhyw gam o’ch cais, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch 01646 624800. Rydym yn croesawu ymgeiswyr sy’n defnyddio cwn cymorth a byddwn yn sicrhau y gallant fod gyda chi drwy gydol y broses recriwtio. Os oes angen unrhyw drefniadau penodol neu gymorth ychwanegol arnoch, rhowch wyfod i ni a byddwn yn gwneud ein gorau i ddiwallu eich anghenion. Gellir darparu gwybodaeth mewn fformatau amgen, gan gynnwys Word, PDF hygyrch, print bras, sain a fformatau eraill ar gais.
Nid y swydd iawn i chi? Cofiwch gael golwg ar ein gwefan am ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli amrywiol a diddorol ar draws y Parc.
Dyddiad Cau:
13/12/2026
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar.
Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Deallwn y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer megis deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i gynorthwyo’r gwaith o baratoi eu cais. Er y caniateir defnyddio’r cyfryw offer, cyfrifoldeb llwyr yr ymgeisydd yw sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn cynrychioli eiriau gywir
- Gall cyflwyno gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu wedi'i gorliwio, p'un a gafodd y wybodaeth ei chynhyrchu gan Ddeallusrwydd Artiffisial ai peidio, olygu eich bod yn anghymwys i fod yn rhan o'r broses recriwtio neu olygu eich diswyddo os caiff hynny ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy cyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
#J-18808-Ljbffr